Ymgynghoriad: Isafbris Uned am Alcohol yng Nghymru
Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad ysgrifenedig byr gyda’r bwriad o ymateb i adroddiad ac ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar weithrediad ac effaith yr Isafbris Uned am Alcohol.
Daeth Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 i rym ar 2 Mawrth 2020. Cyflwynodd y Ddeddf Isafbris Uned am Alcohol, gan osod pris o 50c fesul uned o alcohol. Mae hyn yn golygu na ellir gwerthu alcohol yng Nghymru am lai na 50c yr uned. Ochr yn ochr â pholisïau eraill sy’n ymdrin â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, nod yr isafbris uned yw lleihau niwed o’r fath drwy gynyddu cost alcohol rhad, cryf iawn, sydd yn aml yn gysylltiedig â defnydd niweidiol o alcohol a materion iechyd cysylltiedig.
Mae’r Ddeddf yn cynnwys cymal machlud, sy’n golygu y bydd isafbris am alcohol yn dod i ben yng Nghymru ym mis Mawrth 2026 oni bai bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i’w ymestyn. Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru lunio adroddiad ar weithrediad ac effaith y ddeddfwriaeth.
Ym mis Ionawr 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y adroddiadau terfynol y gwerthusiad annibynnol roedd wedi comisiynu ar weithrediad ac effaith isafbris uned. Mae hefyd yn cynnal ymgynghoriad i gasglu barn ar ymwybyddiaeth o isafbris uned yng Nghymru a’i effaith.
I lywio’r darn hwn o waith, byddem yn croesawu eich barn ar y materion a restrir yma mewn perthynas ag isafbrisiau uned ar gyfer alcohol yng Nghymru.. Fel arall, os ydych eisoes wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, efallai y byddai’n well gennych rannu’r ymateb hwnnw â ni.
Y dyddiad cau yw diwedd dydd 30 Ebrill 2025.
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.