Rhaglen Mesur Plant yn dangos cynnydd yn nifer y plant â gordewdra

Mae nifer y plant 4-5 oed sydd â gordewdra wedi cynyddu mewn dwy ardal bwrdd iechyd wahanol ers 2018-19, yn ôl y Rhaglen Mesur Plant.

Oherwydd y cyfyngiadau a gyflwynwyd gan y pandemig ac adleoli staff gofal iechyd, dim ond ar gyfer plant yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe y bu’n bosibl cael digon o ddata ar gyfer y flwyddyn ysgol 2020-21.  Oherwydd y gwahaniaethau yn y boblogaeth a’r cyfyngiadau ar gasglu data, ni ddylid tybio bod y niferoedd hyn yn adlewyrchu’r sefyllfa ledled Cymru.

Dangosodd data a gyflwynwyd fod cyfradd y plant â gordewdra wedi codi’n sylweddol yn y ddwy ardal bwrdd iechyd. Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, roedd 17.6 y cant o blant wedi eu categoreiddio fel rhai â gordewdra yn 2020-21, a oedd yn gynnydd sylweddol ar y gyfran o 13 y cant a nodwyd yn 2018-19. Yn yr un modd, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, cododd cyfran y plant a gafodd eu categoreiddio fel rhai â gordewdra o 11.8 y cant yn 2018-19 i 18.3 y cant.

Er mai dim ond digon o ddata sydd ganddynt i adrodd y darlun ar gyfer dwy ardal bwrdd iechyd yng Nghymru, gall rhieni ar draws y wlad ddod o hyd i wybodaeth i gynnal pwysau iach ar gyfer eu plant ar wefan Pob Plentyn Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig