Mae cyfran y plant â phwysau iach yn debyg i lefelau cyn y pandemig ond mae materion yn parhau

Mae nifer y plant 4-5 oed a oedd yn bwysau iach yn debyg ar y cyfan i’r lefelau cyn y pandemig, yn y chwe bwrdd iechyd sydd wedi cyflwyno data i Raglen Mesur Plant 2021-22 a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae cyfran y plant â gordewdra yn parhau’n uwch yn yr ardaloedd â’r amddifadedd mwyaf ym mhob un o’r chwe bwrdd iechyd. Ar lefel awdurdod lleol roedd cyfran y plant â gordewdra yn amrywio o 9.9 y cant yn Sir Fynwy i 15.8 y cant yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Gyda gordewdra ymhlith plant yn parhau’n fater parhaus, mae gwefan Pob Plentyn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig cyfoeth o wybodaeth i rieni a gofalwyr i sicrhau bod eu plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

Yn seiliedig ar ’10 Cam i Bwysau Iach’, mae’r safle yn rhoi awgrymiadau ymarferol a defnyddiol i rieni ynghylch sut i sicrhau bod eu plentyn yn cael digon o ffrwythau a llysiau, yn treulio amser yn chwarae yn yr awyr agored, yn cael digon o gwsg, ac yn cyfyngu ar amser o flaen sgrin.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig