Newidiadau i’r polisi ar orchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau
Bydd disgwyl i ddisgyblion a staff mewn ysgolion uwchradd a cholegau wisgo gorchuddion wyneb ym mhob man y tu allan i’r ystafell dosbarth ac ar gludiant i’r ysgol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau gweithredol ar y defnydd o orchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd a cholegau. Mae’r canllawiau bellach yn nodi y dylai’r canlynol wisgo gorchuddion wyneb: staff a dysgwyr ysgolion uwchradd a cholegau ym mhob man y tu allan i’r ystafell ddosbarth; ddysgwyr blwyddyn 7 ac i fyny ar gludiant penodedig i’r ysgol neu goleg; ymwelwyr i bob ysgol a choleg, gan gynnwys rhieni a gofalwyr sy’n gollwng ac yn casglu eu plant.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.