Mae ymyrraeth gynnar yn atal digartrefedd ac yn helpu i gadw pobl ifanc mewn addysg
Mae eu dull ataliol yn canolbwyntio ar sylwi ar risg yn gynnar, a rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau fel ysgolion, colegau, Gyrfa Cymru a sefydliadau’r trydydd sector, i helpu pobl ifanc i adeiladu dyfodol cadarnhaol.
Mae John Poyner, cydgysylltydd ymgysylltiad a chynnydd gwasanaeth ieuenctid Caerffili, yn dod â sefydliadau ynghyd i gefnogi tua 400 o bobl ifanc. Mae’r ymyrraeth yn cynnwys cymorth wedi’i deilwra i helpu pobl ifanc i drosglwyddo’n esmwyth i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar ôl gadael yr ysgol.
Mae John yn gweithio’n agos gyda chydgysylltydd digartrefedd y gwasanaeth ieuenctid, Nichola Davies i nodi a chefnogi’r bobl ifanc hynny a allai fod mewn perygl o ddigartrefedd hefyd.
Mae Kaide, 18 oed, wedi cael cefnogaeth gan y prosiect ac mae bellach yn astudio ar gyfer ei gymhwyster Lefel 1 mewn chwaraeon yng Ngholeg Chwaraeon ac Ymarfer Corff MPCT yng Nghaerffili.
Dywedodd Kaide:
“O’n i ddim yn mwynhau’r ysgol a bod yn onest, o’n i ddim yn academaidd a ddim yn gwybod beth o’n i eisiau ei wneud. Ar ôl ymuno â’r gwersyll haf yng Nghanolfan Virginia, dechreuais ddefnyddio’r gampfa a chymdeithasu, ac fe gododd hynny fy hyder.
“Sylweddolais y gallwn hyfforddi i fod yn hyfforddwr personol, rhywbeth nad o’n i wedi dychmygu ei ‘neud o’r blaen. Rwy’n berson newydd nawr, yn gryfach yn gorfforol ac yn feddyliol.”
Dywedodd John Poyner:
“Pan fydd person ifanc ym Mlwyddyn 11 wedi’i nodi fel person sydd mewn perygl o fod yn NEET, dw i’n trefnu i gwrdd â nhw i sefydlu perthynas ac i esbonio’r gefnogaeth sydd ar gael.
“Yr allwedd i’n llwyddiant yw’r berthynas gadarnhaol maen nhw’n ei adeiladu gyda’n gwasanaeth a chyda gweithwyr arweiniol sydd wedi’u neilltuo i’w cefnogi.”
Mae dulliau arloesol eraill, fel digwyddiadau ‘Pa Ffordd Nawr?’ a gynhelir mewn pedair canolfan ieuenctid yn y fwrdeistref, wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol.
Mae rhaglen gymorth yr haf yn arbennig o lwyddiannus, lle mae gweithwyr arweiniol yn cadw cysylltiad â phobl ifanc a nodwyd yn risg uchel. Yn achos y rhai sydd heb gynllun clir ar ôl gadael yr ysgol, maen nhw’n eu ffonio’n rheolaidd ac yn ymweld â nhw gartref, gan eu cysylltu â chyngor a chefnogaeth briodol.
Mae colegau lleol, Coleg y Cymoedd a champws Crosskeys Coleg Gwent, yn atgyfnerthu’r ymdrechion hyn gyda’u hymgyrch ‘Don’t Drop Out, Speak to us’, lle mae staff yn annog dysgwyr sy’n ei chael yn anodd i ofyn am help.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
“Rydyn ni am i’n plant gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu a chyflawni eu potensial. Mae’r fenter hon yn dangos pŵer cydweithio rhwng sefydliadau i ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth i bobl ifanc.”
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Jayne Bryant:
“Mae’r dull cydweithredol hwn rhwng gwasanaethau ieuenctid, darparwyr addysg a sefydliadau tai yn dangos sut y gall ymyrraeth gynnar drawsnewid bywydau ifanc.
“Drwy sylwi’n gynnar ar bobl ifanc sy’n agored i niwed, gallwn atal digartrefedd a sicrhau eu bod nhw’n cael y gefnogaeth sydd ei hangen.”
Cefnogir y rhaglen drwy’r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid a chyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith ieuenctid a gwasanaethau cymorth ieuenctid.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.