Rhowch wybod i Gymru Iach ar Waith am eich pryderon yn y gweithle drwy lenwi ei Arolwg i Gyflogwyr 2023 (Dyddiad Cau: 5 Mawrth 2023)

Gyflogwyr – Mae Cymru Iach ar Waith (HWW) eisiau gwybod beth yw eich pryderon am iechyd a llesiant yn y gweithle a sut y gallai helpu.

Mae’r Arolwg i Gyflogwyr 2023 wedi’i gynllunio ar gyfer cyflogwyr sydd â staff yng Nghymru. Dyma’r trydydd mewn cyfres o arolygon HWW sy’n caniatáu iddo olrhain ffactorau sy’n effeithio ar iechyd gweithwyr a’u sefydliadau. Yn yr un diweddaraf hwn, mae’n mynd at wraidd sut y gall gynorthwyo cyflogwyr i reoli absenoldeb oherwydd salwch a chadw pobl â chyflyrau iechyd yn y gwaith. Cynhaliwyd yr arolygon blaenorol yn 2019 a 2021.

Rhannwch yr arolwg hwn gyda’ch rhwydweithiau.

Mae llwyddiant yr arolwg yn dibynnu ar barodrwydd cyflogwyr i gymryd rhan. Po fwyaf o ymatebion a gaiff HWW, y gorau fydd ei ddata, a gorau oll y gall gynorthwyo busnesau a’u staff yn y pen draw. Bydd llenwi’r arolwg yn cymryd tua 10 munud.

Bydd y canlyniadau ar gael ar wefan Cymru Iach ar Waith erbyn mis Ebrill/Mai 2023. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen i chi gysylltu â HHW am yr arolwg, anfonwch e-bost at y tîm yn [email protected].

Bydd yr Arolwg i Gyflogwyr 2023 yn cau am hanner nos ddydd Sul, 19 Mawrth 2023.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig