Sut i siarad am unedau sylfaenol iechyd

Pecyn cymorth cyfathrebu ar gyfer pobl sydd yn gweithio ym maes iechyd y cyhoedd

Pwyntiau allweddol

  • Er mwyn newid y ffordd y mae’r cyhoedd yn deall anghydraddoldebau iechyd ac i newid polisi, mae angen i ni newid y ffordd yr ydym yn cyfathrebu am benderfynyddion ehangach iechyd.
  • Mae’r pecyn cymorth hwn yn nodi sut gallwn lunio cyfathrebiadau i ddweud stori fwy pwerus am iechyd sydd yn gallu ysbrydoli gweithredu a newid.
  • Mae ar gyfer unrhyw un sydd yn gweithio ac yn cyfathrebu ym maes iechyd y cyhoedd.
  • Mae’r pecyn cymorth yn seiliedig ar ymchwil ac argymhellion wedi eu profi gan FrameWorks

Mae pob agwedd ar ein bywydau bron yn effeithio ar ein hiechyd ac, yn y pen draw, pa mor hir y byddwn yn byw – ein swyddi a’n cartrefi, mynediad at addysg a thrafnidiaeth gyhoeddus ac a ydym yn profi tlodi neu wahaniaethu. Cyfeirir at y ffactorau hyn yn aml fel penderfynyddion ehangach iechyd.

Mae’r pecyn cymorth hwn yn nodi sut gallwn lunio cyfathrebiadau i ddweud stori fwy pwerus am iechyd. Mae hyn er mwyn cynyddu dealltwriaeth o rôl penderfynyddion ehangach o ran ein hiechyd, ac mae’n cefnogi gweithredu i fynd i’r afael â nhw.

Mae’r argymhellion yn seiliedig ar brosiect ymchwil 4 blynedd wnaeth brofi’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gyfathrebu am iechyd, gan symud y drafodaeth o safbwynt unigol i un sy’n cydnabod ac yn mynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd.

Mae’r pecyn cymorth ar gyfer pawb sydd yn gweithio ac yn cyfathrebu ym maes iechyd y cyhoedd. Mae’r argymhellion yn berthnasol p’un ai eich bod yn siarad â chynulleidfa gyhoeddus, wleidyddol neu arbenigol – newidiwch y cywair a’r pwyslais i deilwra’r neges.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig