Mwy nag ymateb i’r Coronafeirws; pam y dylai iechyd y boblogaeth fod yn uchel ar yr agenda bob amser

Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Iechyd a Llesiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n esbonio pam mae astudio iechyd y boblogaeth ehangach bob amser yn hanfodol i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd a llesiant bobl, a hyd yn oed yn fwy felly wrth wynebu pandemig byd-eang.

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o reoli’r Coronafeirws. Mae ein harbenigedd wedi dylanwadu ar nodi heintiau, ac yn sail i hyn mae cyngor ar hunanamddiffyn ac wedi llywio’r cyfyngiadau angenrheidiol a roddwyd ar waith ledled Cymru er mwyn lleihau lledaeniad y feirws. Fodd bynnag, hyd yn oed yng nghamau cynnar y pandemig, roedd yn amlwg y byddai newidiadau mor ddramatig i fywydau pobl yn cael ôl-effeithiau dwfn ar eu hiechyd meddwl a chorfforol uniongyrchol a hirdymor.

“Roedd angen gwybodaeth newydd arnom am sut roedd pobl yn ymdopi â mwy o ynysu, cyfyngiadau ar eu symudiadau a llai o fynediad at wasanaethau. Roedd angen i ni ddeall sut roedd gwledydd eraill yn ymdopi â ffyrdd newydd o fyw a gweithio, dysgu ohonynt a’u helpu i ddysgu oddi wrthym. At hynny, er mai’r pandemig oedd y prif bryder i bobl a gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol, roedd angen o hyd i ni sicrhau bod bygythiadau eraill a oedd yn bodoli eisoes a bygythiadau posibl i iechyd pobl yn cael eu monitro, eu hasesu a mynd i’r afael â nhw wrth i’r pandemig fynd rhagddo.

“Er mwyn ateb llawer o’r heriau hyn, sefydlodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Grŵp Iechyd y Boblogaeth (PHG), gan ddod ag unigolion at ei gilydd o bob rhan o’r sefydliad cyfan er mwyn ystyried y niwed ehangach sy’n deillio o’r pandemig neu’n parhau drwy’r pandemig a mynd i’r afael â hyn. Gydag ychydig o gyllid a llawer o ewyllys da a brwdfrydedd, mae’r grŵp a’r staff y maent yn eu cynrychioli wedi gwneud gwaith hanfodol i ddylanwadu ar sut rydym ni ac eraill yn diogelu ac yn hyrwyddo iechyd ehangach drwy gydol y pandemig. Wrth i gyfyngiadau’r pandemig gilio, ac wrth i sylw ein sefydliad cyfan symud yn ôl i iechyd y boblogaeth ac anghydraddoldebau, rydym wedi tynnu ynghyd gofnod o rywfaint o gyflawniadau Grŵp Iechyd y Boblogaeth.”

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig