Mae Diogelwch Dŵr Cymru’n ymuno â mam alarus i ddwyn sylw at beryglon ar ôl i adroddiad newydd ddangos y risg o foddi i bobl ifanc yng Nghymru

Mae Diogelwch Dŵr Cymru wedi ymuno â mam o Sir Benfro ar Ddiwrnod Atal Boddi’r Byd i helpu i atal teuluoedd eraill rhag ddioddef y drychineb y mae hi wedi’i ddioddef ar ôl colli ei mab.

Daw’r cydweithredu hwn wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru, RoSPA a Diogelwch Dŵr Cymru lansio adroddiad ar y cyd sy’n dangos y bu 62 o farwolaethau anfwriadol yn gysylltiedig â dŵr yng Nghymru ymhlith plant a phobl ifanc dan 25 oed rhwng 2013 a 2022. 

Wrth i ysgolion gau ar gyfer yr haf, mae Diogelwch Dŵr Cymru, sef cydweithrediad o ryw 40 o sefydliadau yng Nghymru sydd â wnelo â diogelwch dŵr, yn awyddus i addysgu teuluoedd ynglŷn â diogelwch dŵr. 

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig