Ymchwil newydd yn dangos y gallai terfyn cyflymder 20mya arbed £100 miliwn i Gymru yn y flwyddyn gyntaf

Mae ymchwil newydd sy’n dangos bod nifer y marwolaethau ac anafiadau yn gostwng wrth i’r traffig arafu yn cael ei chyhoeddi heddiw, gyda chanlyniadau arolwg newydd sy’n dangos bod y cyhoedd yn dal i gefnogi cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya drwy’r wlad flwyddyn nesaf. Cymru yw’r gyntaf yn y DU i wneud hyn.

Bydd Llywodraeth Cymru’n cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru ym mis Medi 2023. Mae ffyrdd cyfyngedig yn golygu’r rheini sydd wedi’u goleuo ac mae’r rhan fwyaf ohonynt mewn ardaloedd preswyl ac adeilog lle ceir nifer fawr o gerddwyr.

Mae’r ymchwil newydd a wnaed gan y Sefydliad Ymchwil Trafnidiaeth (TRI) ym Mhrifysgol Napier Caeredin mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif y byddai terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya ar ffyrdd preswyl yng Nghymru yn arbed tua £100 miliwn yn y flwyddyn gyntaf yn unig.

Bydd yr arbedion yn deillio’n uniongyrchol o’r gostyngiad yn y marwolaethau a’r anafiadau.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig