Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi Trwyddedu Graddedig ar gyfer Gyrwyr

Byddai cyflwyno Trwyddedu Graddedig ar gyfer Gyrwyr (GDL) yn achub bywydau yn y DU, yn ôl ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymgynghoriad. 

Dylai newidiadau eraill i flaenoriaethu cerdded a beicio, fel cynyddu amseroedd croesi a gosod lonydd ar wahân yn lle lonydd beicio “paent yn unig” gael eu hystyried hefyd, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei strategaeth diogelwch ffyrdd newydd. 

Yn ei ymateb i ymgynghoriad 12 wythnos Llywodraeth Cymru Diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru – Strategaeth diogelwch ffyrdd newydd, galwodd Iechyd Cyhoeddus Cymru am strategaeth diogelwch ffyrdd sy’n canolbwyntio ar iechyd cyhoeddus, yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran y niwed sy’n deillio o’r amgylchedd traffig ffyrdd, ac yn blaenoriaethu cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.  

Mae system GDL wedi’i chynllunio i helpu gyrwyr newydd cerbydau modur i ennill profiad a sgiliau yn raddol dros amser mewn amgylcheddau risg isel. Gellid ystyried amrywiaeth eang o fesurau mewn GDL, ond gall yr opsiynau gynnwys cyfnod pan na chaniateir i yrwyr newydd gymhwyso o dan 25 oed roi lifftiau i bobl ifanc eraill ac ni chaniateir iddynt yrru’n hwyr yn y nos. Mae datganiad safbwynt Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer GDL hefyd yn argymell cyfyngiad gyrru gyda’r nos a chyfyngiad yfed a gyrru o 20mg fesul 100ml o waed. 

Gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd argymell y dylai amseroedd aros croesi gael eu torri ac ymestyn yr amser a ganiateir ar gyfer croesi. Roedd y cynigion polisi penodol yn cynnwys sicrhau bod seilwaith beicio wedi’i wahanu’n glir oddi wrth gerbydau modur eraill a bod “paent yn unig” yn annerbyniol. Gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd amlinellu ei gred y dylid cynnal ymgyrch farchnata gymdeithasol er mwyn gwella’r ddealltwriaeth o ran pwy sy’n talu am y ffyrdd (pawb drwy drethu, nid dim ond gyrwyr) a phwy sydd â blaenoriaeth yn y gofod ffordd (y defnyddwyr ffyrdd mwyaf agored i niwed, nid gyrwyr).  

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig