Mwynhewch Gymru mewn modd diogel yr haf hwn

Gyda’r ysgolion bellach ar eu gwyliau, mae Croeso Cymru wedi ymuno gyda Mentro’n Gall Cymru ar ymgyrch i ddangos i bobl sut i fwynhau’r awyr agored mewn modd diogel dros yr wythnosau nesaf.

Wrth i bobl fynd allan i ddarganfod antur yr haf hwn, mae ymgyrch Addo yn gofyn i bobl gynllunio ymlaen llaw a pharatoi.

Bydd yr ymgyrch sy’n cynnwys hyrwyddo ar cyfryngau cymdeithasol, radio digidol a Spotify yn dangos y gall meddwl am funud cyn mentro i fwynhau’r dirwedd a’r arfordir arwain at brofiad cadarnhaol a diogel.

Drwy ofyn tri chwestiwn syml, sydyn gall pobl sicrhau eu bod nhw’n diogelu eu hunain a phobl eraill:

  • Oes gennyf yr wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod?
  • Ydw i’n gwybod sut bydd y tywydd?
  • Oes gennyf y dillad a’r offer cywir ar gyfer y gweithgareddau a’r amodau?

Gofynnir i bobl roi sylw i arwyddion a chyngor diogelwch lleol, fel dewis i nofio ar draethau ag achubwr bywydau a nofio rhwng y baneri coch a melyn. Drwy gynllunio ymlaen llaw a pharatoi, gall pobl gael hwyl a bod yn ddiogel yr haf hwn.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig