Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lasio astudiaeth ar brofiadau ac iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio astudiaeth newydd i archwilio sut y mae profiadau yn ddiweddarach mewn bywyd yn effeithio ar iechyd a llesiant yng Nghymru.
Mae’r astudiaeth, a gynhaliwyd ar y cyd â Phrifysgol Bangor a Phrifysgol John Moores Lerpwl, yn ceisio gwella dealltwriaeth o effeithiau trallod yn ddiweddarach mewn bywyd fel camarfer, gwahaniaethu, ac ynysigrwydd cymdeithasol.
Bydd y canfyddiadau’n helpu i lywio ffyrdd o gefnogi pobl hŷn yng Nghymru yn well.
Mae trigolion 60 oed a throsodd o gartrefi a ddewiswyd ar hap ledled Cymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan.
Bydd cyfwelwyr profiadol o DJS Research Ltd yn cynnal yr arolwg cyfrinachol a dienw rhwng Chwefror ac Ebrill 2025, a disgwylir i’r canfyddiadau gael eu cyhoeddi yn hydref 2025.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.