Cyfran y plant â phwysau iach yn parhau’n uwch na’r lefel cyn y pandemig
Mae adroddiad blynyddol diweddaraf Rhaglen Mesur Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod nifer y plant 4-5 oed oedd â phwysau iach bellach yn uwch nag yr oedd cyn y pandemig. Mae 73.5 y cant o blant yn y categori hwnnw.
Dangosodd canlyniadau eleni, sy’n deillio o flwyddyn academaidd 2023-24, wahaniaeth ystadegol arwyddocaol hefyd rhwng ardaloedd gwledig a threfol. Mae 26.8 y cant o’r plant sy’n byw mewn ardaloedd gwledig dros eu pwysau neu’n ordew, o’u cymharu â 25.0 y cant o’r plant sy’n byw mewn ardaloedd trefol.
Unwaith eto, mae cydberthynas rhwng lefelau gordewdra ac amddifadedd ledled Cymru. Y plant sy’n byw yn yr ardaloedd hynny a ddynodwyd fel ‘pumed ran fwyaf difreintiedig’ y wlad sydd fwyaf tebygol o fod dros eu pwysau neu’n ordew, ac mae’r plant sy’n byw yn ardaloedd y bumed ran leiaf difreintiedig yw’r lleiaf tebygol o fod felly. Ar lefel Awdurdod Lleol, roedd cyfran y plant a oedd yn ordew yn amrywio o 9.0 y cant yn Sir Fynwy i 14.1 y cant yn Sir Gaerfyrddin.
Mae’r Rhaglen Mesur Plant yn rhaglen wyliadwriaeth genedlaethol sy’n archwilio data taldra a phwysau a gesglir yn flynyddol gan blant mewn dosbarthiadau Derbyn ledled Cymru. Diben yr adroddiad yw darparu data am sut mae plant yn tyfu fel y gall GIG Cymru gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd yn well ar lefelau cenedlaethol, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Mae’r rhaglen yn cael ei chydlynu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i chyflwyno gan dimau nyrsio ysgol o bob un o’r saith bwrdd iechyd.
I Gymru gyfan, roedd lefelau cyfranogiad wedi dychwelyd i’r un lefel â chyn y pandemig. Cymerodd dros 93 y cant o blant ran yn y rhaglen.
Roedd cyfran y plant gordew yng Nghymru (11.8 y cant) yn uwch na’r hyn a adroddwyd ar gyfer Lloegr neu’r Alban.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.