Y Frech Goch, Clwy’r Pennau a Rwbela (MMR) – Gwybodaeth i weithwyr iechyd

Mae achosion o’r frech goch yng Nghymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gofyn i bawb fod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau’r frech goch a gwybod sut i ymateb os oes amheuaeth o’r frech goch.

Mae’r frech goch yn heintus iawn a gall fod yn ddifrifol. Mae cael dau ddos o’r brechlyn MMR dros 95% yn effeithiol o ran atal y frech goch.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru datblygu posteri, taflenni ac adnoddau eraill i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r cyhoedd. Gellir dod o hyd i negeseuon allweddol a chrynodeb o adnoddau yn ein Pecyn cymorth rhaglen imiwneiddio MMR ar gyfer gofal sylfaenol

Gweler ein gwefan gyhoeddus yma: icc.gig.cymru/brechlynMMR a’n gwefan ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yma: icc.gig.cymru/mmr

Gellir archebu adnoddau am ddim yma: icc.gig.cymru/adnoddau-gwybodaeth-iechyd

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig