Mae gadael yr UE wedi newid y ffordd y mae Cymru yn cydweithio ar barodrwydd am glefydau heintus byd-eang, a’u hatal ac ymateb iddynt

Mae adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn casglu bod pandemig y coronafeirws wedi gwthio clefydau heintus i frig yr agenda ar gyfer llywodraethau ledled y byd ac wedi dylanwadu’n sylweddol ar sut y mae’r DU, ac felly Cymru yn cydweithio â phartneriaid rhyngwladol ar glefydau heintus.

Mae’r astudiaeth yn trafod sut y mae ymadawiad y DU o’r UE wedi newid ei pherthnasoedd rhyngwladol a phrosesau ar gyfer ymdrin â bygythiadau clefydau heintus yn y dyfodol.

Dyma’r negeseuon allweddol o’r adroddiad:

  • Mae cydweithio rhyngwladol yn bwysig i dri phrif faes o ran paratoi ar gyfer clefyd heintus, ei atal ac ymateb iddo:
    1. Mae rhannu data a gwybodaeth yn sicrhau bod achosion yn cael eu nodi’n gyflym ac y gellir datblygu ymateb effeithiol, wedi’i gydlynu a’i adolygu er mwyn adlewyrchu’r sefyllfa sy’n newid;
    2. Mae masnachu meddyginiaethau a nwyddau meddygol yn golygu bod adnoddau’n symud o’r gwledydd sy’n eu cynhyrchu i’r mannau lle mae eu hangen, pan fydd eu hangen;
    3. Cydweithio ar atal a pharodrwydd, gan gynnwys ymchwil i ddeall clefydau heintus yn well a’u trin ac effaith cytundebau masnach ar arbenigedd y gweithlu gofal iechyd a safonau rheoleiddio.
  • Mae Brexit o reidrwydd wedi newid y ffyrdd y mae Cymru/y DU yn gweithio gyda’r UE yn y meysydd hyn. Mae hefyd wedi gweld y DU yn datblygu partneriaethau rhyngwladol newydd.
  • Er bod y llinellau amser ar gyfer Brexit a phandemig COVID-19 wedi gorgyffwrdd, roedd llawer o drefniadau ôl-Brexit yn dal i gael eu datblygu.  Yr argyfwng iechyd cyhoeddus rhyngwladol nesaf fydd yn profi’r systemau newydd yn llawn yng Nghymru/y DU.
  • Mae poblogaeth iach yn fwy cydnerth o ran clefydau heintus. Dangoswyd bod gan Brexit y potensial i effeithio ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru. Dylid ystyried yr effeithiau Brexit hyn yng nghyd-destun atal clefydau heintus, parodrwydd amdanynt ac ymateb iddynt.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig