Adeiladu Cymru Iachach

Mae Grŵp Cydgysylltu Adeiladu Cymru Iachach yn gynghrair anstatudol o arweinwyr strategol sy’n cynrychioli sefydliadau a safbwyntiau strategol o’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector gydag amrywiaeth o gynrychiolaeth ledled Cymru.  Mae’r aelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o lywodraeth leol, byrddau iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Chwaraeon Cymru, yr heddlu, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, tai a’r sector gwirfoddol. 

Nod y grŵp, a sefydlwyd yn 2019, yw sicrhau effaith fwyaf posibl yr asiantaethau cyfunol sy’n rhan o’i aelodaeth, er mwyn gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau. 

Mae’n gwneud hyn trwy:

  • Greu lle i arweinwyr strategol ddod ynghyd ar lefel Cymru gyfan
  • Canolbwyntio ar atal, tegwch ac ysgogwyr systemau mewn ymagwedd ‘iechyd ym mhob polisi’
  • Sganio’r gorwel, gan amlygu problemau cyffredin ac atebion
  • Rhannu gwybodaeth, tystiolaeth a gwersi a ddysgwyd rhwng aelodau
  • Cefnogi cydweithio rhyng-sector, gan amlygu cydfuddion sy’n deillio o weithredu ar y cyd
  • Rhoi cyngor cydlynol i Lywodraeth Cymru ar effeithiau posibl polisïau ar iechyd ac anghydraddoldebau iechyd
  • Rhoi gwybodaeth a chyngor cydlynol i bartneriaethau lleol a rhanbarthol, gan gynnwys Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig