Incwm a dyled
Incwm a dyled
Mae’r berthynas rhwng incwm isel ac iechyd gwael yn un sefydlog. Mae’n gweithredu mewn sawl ffordd. Mae pobl ag incwm isel yn ymatal rhag prynu nwyddau a gwasanaethau sydd yn cynnal neu’n gwella iechyd neu’n cael eu gorfodi i brynu nwyddau a gwasanaethau rhatach all gynyddu risg i iechyd. Mae incwm isel hefyd yn atal pobl rhag cymryd rhan mewn bywyd cymdeithasol ac yn gallu arwain atynt yn teimlo eu bod yn llai teilwng neu bod ganddynt statws is mewn cymdeithas na phobl mwy cefnog. Gall y berthynas weithredu yn y ddau gyfeiriad: gall incwm isel arwain at iechyd gwael a gall salwch arwain at allu i ennill llai.
Darllen mwyAdnoddau Ein prif ddewisiadau
Math o ffeil |
Teitl |
Cynhyrchwyd gan |
---|---|---|
|
Gosod tegwch iechyd wrth wraidd ymateb ac adferiad cynaliadwy COVID-19: Adeiladu bywydau llewyrchus i bawb yng Nghymru |
Iechyd Cyhoeddus Cymru |
|
Arian a chynhwysiant ariannol |
Llywodraeth Cymru |
|
Gwasanaeth Cynghori Ariannol |
Money and Pensions Service |
|
Elusen Ddyledion Step Change – Ar gael yn Saesneg yn unig |
Step Change Debt Charity |
|
Sut mae arian yn dylanwadu ar iechyd? – Ar gael yn Saesneg yn unig |
Joseph Rowntree Foundation |
Chwilio am adnodd penodol?
Os ydych chi'n chwilio am adnoddau pwnc-benodol, cliciwch ar adnoddau chwilio lle byddwch chi'n gallu hidlo a chwilio yn ôl maes pwnc.
Cyfrannu at ein pynciau
Oes gennych chi adnodd rydych chi am ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith trwy ychwanegu at ein pynciau.