Lansio Adnodd Argyfwng Costau Byw Newydd

Heddiw mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â grŵp Cydgysylltu Creu Cymru Iachach wedi lansio eu hadnodd argyfwng costau byw newydd. Mae hwn yn dwyn adnoddau ac astudiaethau achos ynghyd ar sut y gall cyrff cyhoeddus, y trydydd sector a’u partneriaethau ymateb i’r argyfwng costau byw er mwyn diogelu iechyd.

Mae’r DU yn wynebu ei hargyfwng costau byw mwyaf ers degawdau (Cyngor ar Bopeth 2022 – Saesneg yn unig). Nid yw cyflogau a thaliadau lles pobl yn cynyddu yr un mor gyflym â chostau byw cynyddol, yn benodol, costau ynni, tanwydd, tai, a bwyd. Mae busnesau a gwasanaethau cyhoeddus hefyd yn gweld nad yw eu cyllidebau yn ymestyn mor bell yn wyneb costau cynyddol.

Wrth i brisiau godi, mae pobl yn wynebu dewisiadau anodd ynghylch y ffordd maent yn gwario eu harian, er enghraifft, a ddylent wresogi’r cartref neu brynu bwyd?  Mae hyn yn debygol o fod â goblygiadau iechyd, lles a thegwch difrifol i boblogaeth Cymru.

Mae pobl sy’n byw yn rhannau tlotaf Cymru eisoes yn marw fwy na chwe blynedd yn gynt na’r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig ac yn treulio mwy o flynyddoedd yn dioddef oherwydd iechyd gwael. Bydd yr argyfwng costau byw yn cyflymu’r gwahaniaethau a oedd eisoes yn cynyddu mewn iechyd rhwng y rhai sydd â’r mwyaf a’r lleiaf o arian yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2022).

Mae adroddiad diweddar am yr argyfwng costau byw yn manylu ar sut mae methu â fforddio’r hanfodion megis bwyd, taliadau rhent neu forgais, gwres a dŵr poeth neu gludiant, yn cael effeithiau negyddol sylweddol ac eang ar iechyd meddwl a chorfforol.

Mae llawer o’r niwed i iechyd ac anghydraddoldebau cynyddol y mae dinasyddion Cymru yn eu hwynebu o ganlyniad i’r argyfwng costau byw yn achosi i’r problemau presennol (megis tlodi, cyflogau is, a stoc dai hŷn, llai ynni-effeithlon) waethygu.

Mae’r argyfwng costau byw yn gofyn am ymateb iechyd y cyhoedd brys er mwyn lliniaru effeithiau negyddol yr argyfwng uniongyrchol ar draws nifer o feysydd polisi. Yn ogystal â hynny, mae angen mynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd i greu Cymru iachach a mwy cyfartal yn y tymor hir.

 

*Mae grŵp Cydgysylltu Creu Cymru Iachach yn cydweithio â Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu’r tudalennau hyn ar gyfer asiantaethau a phartneriaethau yng Nghymru, i lywio eu gweithredoedd a’u hymatebion. Cânt eu hadolygu ac ychwanegir atynt wrth i’r sylfaen dystiolaeth ddatblygu. Bydd y dudalen we yn cynnwys yr adnoddau a’r wybodaeth ddiweddaraf i gynorthwyo pob sector gyda’u hymatebion.

Os hoffech gyfrannu at y dudalen hon, e-bostiwch y tîm yma: [email protected]

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig