Gwyddor ymddygiad yw’r astudiaeth wyddonol o ymddygiad – beth sy’n ei alluogi, beth sy’n ei atal, a’r ffordd orau o’i ysgogi a’i gynnal. Mae ymddygiad yn unrhyw beth yr ydym yn ei wneud mewn ymateb i ddigwyddiad mewnol neu allanol; gellir cymysgu ymddygiad gydag agweddau, emosiynau, bwriadau, dylanwadau a chanlyniadau yn aml. Mae bwriad yn rhywbeth yr ydym yn ceisio neu’n bwriadu ei wneud; nid yw bwriadu gwneud rhywbeth yn golygu y byddwn yn ei wneud mewn gwirionedd. Mae agweddau, credoau, emosiynau, gwybodaeth a sgiliau, pobl o’n hamgylch, a’n hamgylchedd ffisegol i gyd yn ffactorau sydd yn gallu dylanwadau ar ein hymddygiad. Canlyniadau yw’r nod neu’r effaith ddymunol yr ydym eisiau ei chyflawni.
Mae Gwyddor Ymddygiad yn cynnwys casglu a dadansoddi data, defnyddio tystiolaeth, datblygu modelau a damcaniaethau i ragweld ymddygiad, a datblygu a gwerthuso ymyriadau i ddylanwadau arno. Mae gwyddor ymddygiad yn cael ei gymhwyso’n helaeth yn y sectorau cyhoeddus a masnachol, Yn y sector cyhoeddus mae’n cael ei ddefnyddio i wella polisïau, gwasanaethau a chyfathrebu. Mae dibynnu ar synnwyr cyffredin i ragweld sut bydd pobl yn ymateb wedi arwain at fethiannau costus yn y gorffennol. Ceir bellach nifer o enghreifftiau o’r ffordd y mae gwyddor ymddygiad wedi arwain at wneud polisïau, datblygu gwasanaethau a chyfathrebiadau yn effeithiol.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn gosod nodau uchelgeisiol ar gyfer gwella llesiant yng Nghymru, yn ogystal â dyletswyddau, mecanweithiau a ffyrdd o weithio i gyflawni ei nodau. Mae cyflawni gwelliannau o ran llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn dibynnu’n helaeth ar newid ymddygiad, ac o ganlyniad gall gwyddor ymddygiad chwarae rôl gynyddol bwysig yn cyflawni’r nodau llesiant.
Defnydd ymarferol pwysig o wyddor ymddygiad yw i ddatblygu ymyriadau newid ymddygiad effeithiol, fel gwasanaethau a pholisïau, Trwy wneud hynny mae’n hanfodol peidio â neidio i mewn gydag ymyriadau o’r fath yn rhy gynnar, ond dylid mabwysiadu dull systematig o gyrraedd y rhai sydd â siawns dda o fodloni eu hamcanion. Mae dull o’r fath yn cynnwys sawl cam fel yr amlinellir isod:
- Diffinio’r broblem: Diffinio’r her mewn termau ymddygiadol a phenderfynu ar ymddygiad targed a grŵp targed.
- Diagnosis ymddygiadol: Deall yr hyn sy’n sbarduno’r ymddygiad a’r hyn sydd angen digwydd i newid yr ymddygiad. Mae model COM B yn rhoi strwythur yn seiliedig ar dystioaleth ar gyfer archwilio a nodi penderfynyddion ymddygiad.
- Dylunio ymyrraeth: Defnyddio’r mewnwelediadau a gafwyd o’r ail gyfnod, gan ddatblygu ymyriadau/polisïau sydd yn ceisio dylanwadu ar yr ymddygiad traged trwy fynd i’r afael â’r rhwystrau a nodwyd. Mae’r Olwyn Newid Ymddygiad yn rhoi dewislen o fathau a dulliau ymyrraeth yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gweithredu ymyriadau o’r fath.
- Monitro a gwerthuso effaith: Cynnal gwerthusiad o’r broses a/neu’r effaith i weld a wnaeth yr ymyrraeth weithio ac a oedd unrhyw ganlyniadau nas bwriadwyd.
- Magu: Cynyddu lledaeniad a graddfa’r ymyriadau sydd wedi eu profi i fod yn effeithiol
Uned Gwyddor Ymddygiad
Mae Uned Gwyddor Ymddygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu arbenigedd ar wyddor ymddygiad, ac mae’n hyrwyddo ac yn galluogi ei ddefnyddio’n gynyddol fel mater o drefn, gan wella iechyd a lles yng Nghymru. Mae’r Uned yn cefnogi rhanddeiliaid yn y system iechyd y cyhoedd ehangach, i gyflwyno newid sylweddol i wella canlyniadau iechyd a lles. Mae’n rhoi cymorth arbenigol i integreiddio gwyddor ymddygiad fel ffordd o wella polisi, gwasanaethau a chyfathrebiadau sydd wedi eu dylunio i wella lles; mae’n datblygu adnoddau i gynyddu cymhwyso gwyddor ymddygiad fel mater o drefn; ac mae’n hwyluso datblygiad gallu a galluogrwydd. Er mwyn dysgu mwy am waith yr uned a chael mynediad at offer ac arweiniad gwyddor ymddygiad, ewch i’r wefan. Er mwyn cysylltu â’r uned ebostiwch [email protected]