Mae newid ymddygiad yn allweddol i fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd

Mae gwneud newidiadau ymddygiad cadarnhaol o ran yr hinsawdd mor normal, hawdd, deniadol ac arferol â phosibl, yn allweddol i ysgogi newid parhaus a lliniaru effeithiau’r argyfwng hinsawdd, yn ôl canllaw newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Wedi’i lansio fel rhan o Wythnos yr Hinsawdd Cymru Llywodraeth Cymru (21 -23 Tachwedd), mae ‘Ymateb i’r argyfwng hinsawdd: cymhwyso gwyddor ymddygiad’ wedi’i gynllunio i gynorthwyo gwneuthurwyr polisi a gweithwyr proffesiynol i ddefnyddio gwyddor ymddygiad i greu ymyriadau effeithiol er mwyn ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Mae llawer o’r ymddygiad sy’n cael effeithiau negyddol ar yr hinsawdd yn digwydd yn rheolaidd ac yn ailadroddus (fel cymudo, gwaredu gwastraff, a siopa), ac maent wedi dod yn awtomatig i lawer (a elwir hefyd yn arferion) sy’n aml yn anodd eu newid gyda dulliau syml/traddodiadol.

Meddai Oliver Williams, Cofrestrydd Arbenigol Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Amcangyfrifir bod mwy na 40 y cant o’n gweithredoedd byw bob dydd yn arferion, ac felly nid ydynt yn benderfyniadau ymwybodol mewn gwirionedd.

“Yn aml, nid yw mabwysiadu neu ledaenu ymddygiad hinsawdd yn araf oherwydd diffyg ymwybyddiaeth neu wybodaeth, neu hyd yn oed ddiffyg cymhelliant neu fwriad, ond yn hytrach oherwydd ein dull o darfu ar arferion presennol, neu alluogi arferion newydd yn ddigonol”

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig