Sicrhau effaith fwyaf posibl eich ymdrechion – dau offeryn newydd i ddefnyddio gwyddor ymddygiad
Mae’n bleser gan Uned Gwyddor Ymddygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi lansio dau offeryn gwyddor ymddygiad newydd sy’n seiliedig ar PDF i helpu ymarferwyr a llunwyr polisi i ddeall ymddygiad dynol yn well a dylanwadu arno.
Gall gwyddor ymddygiad eich helpu i ddatblygu mewnwelediadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddeall ymddygiad pobl a rhoi cyfrif amdano, gan eich helpu i gael y mwyaf o’ch polisïau, gwasanaethau a chyfathrebu sefydliadol.
Yn dilyn lansiad: Gwella iechyd a llesiant: canllaw i ddefnyddio gwyddor ymddygiad mewn polisi ac ymarfer mae’n bleser gan yr uned gwyddor ymddygiad lansio dau offeryn newydd i’ch helpu i ddadbacio cam cyntaf ac ail gam cynllunio ymyriadau newid ymddygiad.
Mae Offeryn 1 – Penderfynu ar ymddygiad a phoblogaethau wedi’i gynllunio i helpu wrth ddatblygu diffiniadau clir o’r ymddygiad a grŵp/grwpiau poblogaeth dan sylw. Mae’r eglurder hwn yn helpu i sicrhau dealltwriaeth gywir o’r dylanwadau, gan ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer datblygu ymyriadau effeithiol. Mae’r offeryn ar ffurf fformat PDF y gellir ei olygu gan eich galluogi i gofnodi eich syniadau a datblygu manyleb ymddygiad glir.
Offeryn 2 – Diagnosis Ymddygiad – Sut i gasglu mewnwelediadau yw’r ail gam o gynllunio ymyriadau newid ymddygiad ac mae’n dilyn ymlaen o Offeryn 1 drwy ddarparu canllaw cam wrth gam o roi diagnosis o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad a nodi rhwystrau a galluogwyr i newid ymddygiad yn eich poblogaeth darged.
Lle bynnag rydych yn dechrau eich taith newid ymddygiad, bydd yr offerynnau hyn yn helpu i ddod â ffocws ymddygiad i’ch gwaith a bydd yn cyfrannu at fodloni eich nodau newid ymddygiad.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.