Ysgolion Cymru yn helpu i gynyddu faint o lysiau mae plant yn eu bwyta
Mae bron i 500 o ysgolion yn cymryd rhan yn yr ymgyrch ‘Bwyta’r Llysiau i’w Llethu’, gan helpu mwy na 100,000 o blant i fwyta mwy o lysiau a gwneud dewisiadau iachach o ran bwyd.
Mae Bwyta’r Llysiau i’w Llethu gan Veg Power – gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru – yn gwneud bwyta llysiau yn hwyl ac yn annog plant i roi cynnig ar fwydydd newydd.
Mae ymchwil yn dangos nad yw plant yn bwyta digon o lysiau, gydag un o bob tri yn bwyta llai nag un dogn y dydd.
Profwyd bod yr ymgyrch yn cynyddu’r nifer o lysiau sy’n cael bwyta gan blant, hyd yn oed y rhai mwyaf amharod – dywedodd 67% bod yr ymgyrch wedi eu helpu i fwyta mwy o lysiau.
Mae Ysgol Gynradd Windsor Clive yng Nghaerdydd yn un o’r ysgolion sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch eleni ac mae plant wedi mwynhau dysgu am bwysigrwydd deiet cytbwys.
Cawsant gyfle hefyd i wneud pasta ffres, blasu bwydydd newydd a dysgu am sut i baratoi prydau iach diolch i brosiect peilot yr Awr Fwyd.
Mae prosiect yr Awr Fwyd yn neilltuo awr yn y dosbarth bob dydd i addysgu ac ysbrydoli plant am faeth, gyda dosbarthiadau ymarferol am sut i dyfu, coginio a pharatoi bwyd iach.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.