Y rhaglen i gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yng Nghymru wedi’i chyflawni

Wrth i blant ddychwelyd ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod pob disgybl mewn ysgolion cynradd a gynhelir ledled Cymru bellach yn gallu cael pryd ysgol am ddim, o’r wythnos hon ymlaen.

Bellach, mae cyflwyno’r rhaglen fesul cam wedi’i gyflawni ledled Cymru, sy’n golygu bod pob plentyn hyd at Flwyddyn 6 a chan gynnwys Blwyddyn 6, yn gallu cael pryd ysgol am ddim bob diwrnod ysgol erbyn hyn.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi pennu’r ymrwymiad hwn yn 2021, fel rhan o’i hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi plant. Ers ei lansio, mae bron i 30 miliwn o brydau bwyd wedi’u darparu, ac mae’r rhaglen newydd hon yn rhoi hawl i 176,000 yn fwy o ddysgwyr i bryd ysgol am ddim.

Mae prydau ysgol am ddim hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd, hyrwyddo bwyta’n iach, ac mae ganddynt y potensial i wella sgiliau cymdeithasol yn ystod amser bwyd, gan gynnwys helpu i wella ymddygiad a chyrhaeddiad dysgwyr. Mae’r awdurdodau lleol hefyd wedi’u cefnogi a’u hannog i ddod o hyd i fwyd yn lleol, lle bo hynny’n bosibl.

Mae gwaith ar y gweill i adolygu Rheoliadau sy’n nodi’r mathau o fwyd a diod y gellir eu darparu yn ystod y diwrnod ysgol, gan gynnwys diffinio cynnwys maethol prydau ysgol.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig