Senedd Cymru yn cymeradwyo deddfwriaeth 20mya
Mae’r Senedd wedi cymeradwyo deddfwriaeth i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr o 30mya i 20mya.
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i wneud hyn – gan helpu i achub bywydau, datblygu cymunedau mwy diogel, gwella ansawdd bywyd ac annog mwy o bobl i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy a llesol.
Mae’r terfynau cyflymder arafach newydd yn cael eu treialu ar hyn o bryd mewn wyth cymuned ledled Cymru a chânt eu cyflwyno’n genedlaethol ym mis Medi 2023.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.