Rhaid bod yn uchelgeisiol ac eang ein gorwelion wrth ddelio â theithio llesol

Mae canllaw newydd i helpu awdurdodau lleol i gynllunio, dylunio a darparu llwybrau cerdded a beicio o ansawdd uchel ledled Cymru wedi’I lansio.

Mae’r Canllaw i’r Ddeddf Teithio Llesol yn dod â chyngor blaenorol a’r ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ynghyd ac yn disgrifio’n glir yr hyn y mae disgwyl i gynghorau ei wneud wrth baratoi seilwaith newydd gydag arian Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru am fuddsoddi £75m mewn teithio llesol eleni yn unig, mwy fesul pen nag unrhyw wlad yn y DU, i ddarparu llwybrau teithio llesol o ansawdd uchel i bobl ledled Cymru, er mwyn iddynt deimlo’n ei bod hi’n ddiogel gadael eu ceir a beicio neu gerdded.

Mewn arolwg diweddar gan Beaufort ar ran Llywodraeth Cymru, gwelwyd bod bron hanner (49%) y bobl a holwyd yn poeni nad yw’r ffyrdd yn ddiogel ar gyfer beicwyr, a bod 59% o rieni’n teimlo nad oedd hi’n ddiogel i’w plant feicio ar ffyrdd lleol.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig