Pobl dros 60 oed i elwa o gynllun ffitrwydd am ddim
Mae gan bobl dros 60 oed bellach fynediad at 125 o sesiynau chwaraeon a ffitrwydd am ddim neu ostyngol mewn canolfannau hamdden, mannau awyr agored a lleoliadau cymunedol ledled Cymru.
Mae’r Cynllun Hamdden Actif i bobl dros 60 oed wedi cyflwyno mwy na 10,750 o sesiynau ers 2021, gyda 154,500 o bresenoldebau wedi’u cofnodi.
Mae’r gweithgareddau’n amrywio o bêl-bicl a dringo i nofio, ioga, tai chi, grwpiau cerdded a dosbarthiadau hyfforddiant cryfder.
Y llynedd yn unig, cymerodd mwy na 5,550 o bobl ran yn y rhaglen, gyda 125 o wahanol fathau o ymarfer corff ar gael.
Mae’r cynllun yn cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru ac mae’n cael ei gyflwyno ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol.
Y tu hwnt i fuddion iechyd corfforol, mae’r cynllun yn helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Mae’r cyfranogwyr yn dweud bod y cynllun yn helpu eu llesiant ac yn eu cefnogi i greu cysylltiadau cymdeithasol cryfach.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.