Sut mae’r celfyddydau yn creu Cymru iachach

Mae ymchwil newydd dan arweiniad Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME), Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor yn amcangyfrif mai £588 miliwn y flwyddyn o leiaf yw gwerth ariannol manteision iechyd a chynhyrchiant drwy ymgysylltu â’r celfyddydau yng Nghymru.

Dyma un o’r casgliadau a ddaeth o ymchwil newydd sbon gan economegwyr iechyd blaenllaw Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ymchwilwyr ym Mhrifysgol Edge Hill am y rhan hanfodol y mae’r celfyddydau yn ei chwarae wrth gefnogi iechyd y cyhoedd a lleihau’r pwysau ar wasanaethau hanfodol a hefyd darparu manteision lles sylweddol i bobl o bob oed.

Dyma’r tro cyntaf i effaith economaidd y celfyddydau ar GIG a gofal cymdeithasol Cymru gael ei hymchwilio ar lefel genedlaethol. Cyngor Celfyddydau Cymru a gomisiynodd yr ymchwil. 

Mae’r adroddiad annibynnol, Asesu Effaith Economaidd y Celfyddydau ar Iechyd a Gwasanaethau Gofal Iechyd yng Nghymru yn dangos fod ymgysylltu â’r celfyddydau yn rhoi o leiaf £588 miliwn mewn manteision iechyd a lles blynyddol ledled Cymru. Mae’r dadansoddiad yn defnyddio modelau cenedlaethol cydnabyddedig, yn defnyddio rhagdybiaethau ceidwadol drwyddi draw ac yn dod i’r casgliad bod y gwir fanteision yn debyg o fod yn uwch.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig