Llywodraeth Cymru yn helpu plant i fwynhau Llond Ceg o lysiau
Mae Bwytewch y Llysiau i’w Llethu yn dychwelyd am ei chweched flwyddyn. Y nod yw gwneud llysiau’n hwyl, gwella deiet plant a chynyddu faint o lysiau y maen nhw’n eu bwyta.
Mae thema’r ymgyrch eleni, sef ‘Llond Ceg’, yn galw ar blant i lethu llysiau fesul tamaid a hybu plant i fwyta mwy o lysiau drwy raglen mewn ysgolion ac ymgyrch hysbysebu.
Mae’r ymgyrch gan Nerth Llysiau, ITV, Channel 4 a Sky Media, sydd wedi ennill gwobrau, yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru sy’n ariannu rhaglen ddwyieithog i ysgolion ar gyfer pob ysgol gynradd ledled Cymru, gan gyrraedd dros 262,000 o blant.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.