Hwb mawr i ymchwil iechyd menywod yng Nghymru

Bydd canolfan ymchwil iechyd menywod bwrpasol yn agor ym mis Ebrill gyda’r nod o ddarparu tystiolaeth hanfodol i wella gofal iechyd i fenywod yng Nghymru.

Bydd y ganolfan rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd menywod yn elwa ar fuddsoddiad o £3 miliwn gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, a hynny yn ychwanegol at £750,000 sydd ar gael ar gyfer prosiectau ymchwil iechyd menywod pwrpasol eraill.

Mae’r hwb ariannol hwn yn adlewyrchu ymrwymiad sylweddol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, drwy gynllunio gwasanaethau ar gyfer menywod yn y dyfodol, fel y nodir yng nghynllun iechyd menywod Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, sydd â’r cyfrifoldeb dros iechyd menywod:

“Bydd y ganolfan ymchwil newydd hon, y gyntaf ar gyfer iechyd menywod yng Nghymru, yn hanfodol i wella ein dealltwriaeth o brofiadau menywod, er mwyn datblygu triniaethau mwy effeithiol a sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd yn llwyddo i ddiwallu anghenion menywod ym mhob cyfnod o’u bywydau.

Rwy’n gobeithio y bydd y ganolfan yn denu ac yn cadw ymchwilwyr blaenllaw yn y maes, ac yn helpu i sicrhau bod profiadau ac anghenion menywod Cymru yn llywio ein cynllun iechyd menywod.”

Cafodd cynllun iechyd menywod Cymru ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr, ac roedd yn nodi cynlluniau i lansio galwad ar gyfer ymchwil iechyd menywod gyda chyllideb o £750,000 ym mis Ebrill 2025. Roedd hefyd yn annog prifysgolion Cymru i wneud cais am gyllid catalytig i greu Canolfan Ymchwil Iechyd Menywod.

Mae cyllid o £3,013,936 bellach wedi ei sicrhau, fel rhan o becyn cyllido ehangach gwerth £49 miliwn, a gyhoeddwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ar gyfer cefnogi 17 o ganolfannau ymchwil ledled y wlad.

Bydd y Rhwydwaith Iechyd Menywod, sy’n rhan o Weithrediaeth y GIG, nawr yn gweithio gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r gymuned academaidd i wella’r dystiolaeth iechyd sy’n benodol i fenywod yng Nghymru.

Dywedodd yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod, Dr Helen Munro:

“Mae hwn yn gam calonogol tuag at sicrhau system gofal iechyd fwy cyfartal i fenywod yng Nghymru, ac mae’n fuddsoddiad gwirioneddol yn ein hiechyd yn y dyfodol. Bydd y Rhwydwaith Iechyd Menywod, sy’n rhan o Weithrediaeth GIG Cymru, yn edrych ymlaen at weithio gyda’n cydweithwyr yn Ymchwil Gofal Iechyd Cymru a rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu’r data a’r dystiolaeth sy’n benodol i fenywod. Bydd y gwaith hanfodol hwn yn hollbwysig er mwyn inni allu cynllunio gwasanaethau a fydd yn gwella profiadau a chanlyniadau i fenywod yng Nghymru.”

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig