Cynnydd yn y diagnosis o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yng Nghymru yn dilyn mynediad ehangach at brofion
Mae adroddiad blynyddol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ar iechyd rhywiol wedi dangos mwy o fynediad at brofion heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a manteisio ar y profion hynny. Fel mewn rhannau eraill o’r DU mae hyn wedi golygu bod Cymru wedi gweld cynnydd yn y diagnosis a roddir o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, gyda chynnydd nodedig o ran diagnosis o gonorea, clamydia a siffilis.
Mae’r adroddiad, ‘Adroddiad Blynyddol Iechyd Rhywiol yng Nghymru 2023’, yn dangos cynnydd amlwg mewn profion a gynhaliwyd ers cyflwyno gwasanaeth profi drwy’r post, sy’n galluogi pobl i gynnal profion yn eu cartrefi eu hunain.
Mae profion drwy’r post ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol wedi bod yn arbennig o boblogaidd ymhlith y grwpiau oedran iau, 15-24 oed a 25-34 oed, ac mae’n golygu bod gan wyliadwriaeth heintiau a drosglwyddir yn rhywiol fwy o sensitifrwydd o ganlyniad. Mae mwyafrif yr achosion o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol sy’n cael diagnosis yn y grwpiau oedran hyn.
Mae profion rheolaidd ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a HIV yn hanfodol i gynnal iechyd rhywiol da. Mae hyn yn sicrhau y gellir darparu triniaeth gynnar, yn ogystal ag osgoi lledaenu heintiau. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori y dylai pawb sy’n cael rhyw heb gondom gyda phartneriaid newydd neu achlysurol gael eu sgrinio am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol gan gynnwys prawf HIV o leiaf unwaith y flwyddyn, hyd yn oed os nad oes ganddynt unrhyw symptomau.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.