Creu cartrefi iachach yn allweddol i gefnogi llesiant teuluoedd yng Nghymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw am gydweithio agosach rhwng y sectorau iechyd a thai i sicrhau y gall pob teulu yng Nghymru fyw mewn cartrefi sy’n amddiffyn ac yn hyrwyddo eu hiechyd a’u llesiant.
Adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw; Llunio dyfodol cartrefi yng Nghymru sy’n iach i blant a theuluoedd fyw ynddynt Crynodeb o ymgysylltiad rhanddeiliaid, yn rhannu gweledigaeth ar gyfer dyfodol tai yng Nghymru, un lle mae cartrefi’n saff a diogel, yn fforddiadwy, ac yn cefnogi plant a theuluoedd i ffynnu.
Mae’r adroddiad yn tynnu ar fewnwelediadau o weithdy dyfodol tai a gynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Tachwedd 2024, a ddaeth â bron i 50 o arbenigwyr o Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd lleol, y trydydd sector a’r byd academaidd ynghyd. Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Tai Pawb.
Defnyddiodd y gweithdy ddulliau meddwl ar gyfer y dyfodol i nodi beth sydd angen newid nawr er mwyn adeiladu tuag at system dai iachach a thecach yng Nghymru — yn enwedig i blant a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi.
Dywedodd Joe Rees, Uwch Swyddog Polisi Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Nid mater tai yn unig yw creu cartrefi iach, mae’n fater o iechyd y cyhoedd. Mae’r adroddiad hwn yn nodi gweledigaeth a rennir a blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer gweithredu. Gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli pawb sy’n gweithio ym meysydd tai, iechyd, cynllunio a pholisi i gydweithio i greu cartrefi sy’n cefnogi iechyd a llesiant teuluoedd heddiw ac yn y dyfodol.”
Mae’r adroddiad yn amlinellu sawl rhwystr mawr a nodwyd gan randdeiliaid i dai iach yng Nghymru, gan gynnwys ansawdd gwael tai, heriau fforddiadwyedd, a thenantiaethau ansicr. Mae’n tynnu sylw at yr angen i symud tuag at argaeledd cynyddol tai fforddiadwy o ansawdd a safonau uwch ar gyfer y sector rhentu preifat.
Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn nodi mentrau cyfredol y mae rhanddeiliaid wedi’u rhannu sy’n cynnig addewid. Mae’r rhain yn cynnwys dwy astudiaeth achos arloesol: rhaglen Cartrefi Iach Pobl Iach gan Cymru Gynnes, sy’n cefnogi aelwydydd agored i niwed gydag ymyriadau effeithlonrwydd ynni ac iechyd, a dull tai sy’n seiliedig ar drawma gan Caredig, sy’n canolbwyntio ar greu amgylcheddau mwy diogel a chefnogol i denantiaid sydd â phrofiad bywyd o drawma.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig