Ceisio barn ar safonau newydd ar gyfer iechyd a lles mewn ysgolion
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu set newydd o safonau ar gyfer ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a llesiant mewn ysgolion yng Nghymru. Rydym bellach ar gam olaf yr ymgysylltu a hoffem glywed barn partneriaid allweddol (gan gynnwys ysgolion) ar y cynigion.
Bydd y safonau newydd yn disodli’r Wobr Ansawdd Genedlaethol flaenorol sydd wedi bod yn fframwaith ar gyfer iechyd a lles mewn ysgolion ers 2009. Mae’r Safonau Cenedlaethol arfaethedig newydd ar gyfer Ysgolion Hybu Iechyd a Lles yng Nghymru wedi’u trefnu o amgylch elfennau craidd dull ysgol gyfan iechyd a lles, yn hytrach na phynciau iechyd a ddiffiniwyd ymlaen llaw. Maent yn cynnig y cyfle i ysgolion nodi eu blaenoriaethau iechyd eu hunain. Maent hefyd yn helpu ysgolion i ymarfer hunanarfarnu a chynllunio gweithredu i annog gwelliant parhaus.
Mae’r safonau’n gosod llinell sylfaen ar gyfer ysgolion y gallwn ddisgwyl yn rhesymol i bob ysgol ei chyflawni dros amser.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.