Canlyniadau arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’
Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â’r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi’u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dyma’r canfyddiadau allweddol:
- dywedodd 12 y cant o bobl eu bod yn bryderus iawn am ddal coronafeirws. Mae hyn yn ostyngiad o 24 y cant pan gafodd pobl eu holi flwyddyn yn ôl (14–20 Rhagfyr 2020).
- roedd 85 y cant o bobl yn cytuno â’r polisi sy’n ei gwneud yn ofynnol i bobl yng Nghymru ddangos Pàs COVID y GIG neu brawf llif unffordd negyddol diweddar er mwyn mynd i glybiau nos neu ddigwyddiadau mawr.
- nododd 70 y cant o bobl eu bod yn defnyddio profion llif unffordd yn rheolaidd; i fyny o 55 y cant yng nghylch diwethaf yr arolwg (27 Medi tan 4 Hydref 2021).
- mae 91 y cant yn cefnogi’r gofyniad parhaus am orchuddion wyneb mewn siopau a mannau cyhoeddus dan do eraill yng Nghymru.
Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu Rhagfyr 2021, pan gafodd 512 o bobl eu holi.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal cyfweliadau â miloedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae’r Coronafeirws a’r mesurau sy’n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru. Ers mis Ebrill 2020, mae dros 24,000 o drigolion Cymru wedi cymryd rhan yn yr arolwg.
Mae’r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.