Adnoddau hyfforddi ar gael i baratoi ar gyfer brechu rhag COVID-19

Mae Public Health England yn arwain yn y gwaith o ddatblygu deunyddiau hyfforddi ar imiwneiddio rhag COVID-19. Bydd y rhain yn cynnwys modiwl e-ddysgu COVID-19, a fydd yn cynnwys adran wybodaeth graidd ac adrannau penodol i frechlynnau, cyfres o sleidiau  hyfforddi gynhwysfawr a fframwaith cymhwysedd clinigol. Unwaith y bydd yr adnoddau hyfforddi hyn wedi cael eu hawdurdodi byddant ar gael i’w defnyddio yng Nghymru.

Mae modiwl hyfforddiant imiwneiddio yn bodoli eisoes y cyfeirir ato weithiau fel y rhaglen ddeuddydd. Mae’n seiliedig ar y safonau hyfforddiant imiwneiddio cenedlaethol. Mae’r modiwl hwn ar gael nawr yn rhad ac am ddim. Mae’n darparu’r wybodaeth graidd ac egwyddorion imiwneiddio a brechu cyffredinol, megis storio brechlynnau, rhoi brechlyn, materion cyfreithiol, ac ati. Gall defnyddwyr hunan-gofrestru trwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y wefan:

https://www.e-lfh.org.uk/programmes/immunisation/. Ar ôl cwblhau modiwl, er enghraifft storio brechlynnau, gellir argraffu tystysgrif. Ni fydd cwblhau’r modiwlau hyn yn disodli hyfforddiant imiwneiddio rhag COVID-19. Mae’n ofynnol i bob unigolyn a fydd yn imiwneiddio a/neu’n darparu cyngor imiwneiddio ynghylch brechlyn(au) COVID-19 gwblhau’r modiwl e-ddysgu COVID-19. Bydd gofyn i’r sawl sy’n rhoi brechlyn am y tro cyntaf neu staff sy’n dychwelyd gwblhau asesiad cymhwysedd clinigol gyda goruchwyliwr.

Ymwelwch ag http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/70069 Dyma dudalen ryngrwyd e-ddysgu Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd dolen uniongyrchol i fodiwl e-ddysgu COVID-19 yn cael ei huwchlwytho yma, pan fydd ar gael.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig