Adroddiad yn canfod bod canllaw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyfrannu at godi proffil gwaith teg ymhlith partneriaid yn y sector cyhoeddus
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi canfod bod partneriaid yn y sector cyhoeddus yn cynyddu eu hymdrechion i wella iechyd a llesiant drwy fynediad at waith teg.
Gwaith teg yw lle mae gweithwyr yn cael eu gwobrwyo’n deg, eu clywed a’u cynrychioli, yn ddiogel ac yn gallu gwneud cynnydd mewn amgylchedd iach, cynhwysol lle mae hawliau’n cael eu parchu. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i adeiladu economi sy’n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.
Mae cymryd rhan mewn gwaith teg yn floc adeiladu hanfodol ar gyfer iechyd da. Mae’n rhoi ymdeimlad o ddiben ac adnoddau ar gyfer bywyd iach. Gall hyn yn ei dro leihau straen a helpu plant yn y teulu i gael y dechrau gorau mewn bywyd.
Ers mis Mai 2022, mae’r Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn ymgysylltu ag asiantaethau ledled Cymru i’w cynorthwyo i gysylltu gwaith teg ac iechyd, llesiant a thegwch a deall pa gamau gweithredu y gallant eu cymryd. Mae hyn yn adeiladu ar eu canllaw a’u hadnoddau ar gyfer partneriaid lleol a rhanbarthol i gynyddu cyfranogiad mewn gwaith teg er mwyn gwella iechyd, llesiant a thegwch.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.