Cyflog byw gwirioneddol yn hanfodol i iechyd

Gall cyflogwyr sy’n talu cyflog byw gwirioneddol neu uwch i staff ddiogelu a chefnogi iechyd a llesiant da i’r unigolyn a chymdeithas yn gyffredinol, yn ôl arbenigwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r tîm penderfynyddion ehangach iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod cefnogi cyflog byw i gyflogeion yn bwysicach nawr nag erioed. Yn enwedig i weithwyr sy’n wynebu argyfwng costau byw ac i gyflogwyr yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol sy’n ei chael yn anodd recriwtio a chadw staff.

Mae cyflog digonol yn rhan sylfaenol o ‘waith teg’ – lle mae gweithwyr yn cael eu gwobrwyo’n deg, eu clywed a’u cynrychioli, yn ddiogel ac yn gallu gwneud cynnydd mewn amgylchedd iach, cynhwysol lle mae hawliau’n cael eu parchu.

Mae gwaith teg yn floc adeiladu hanfodol i iechyd a llesiant da, gan alluogi pobl i fwyta’n iachach, fforddio tai gwell a gwneud dewisiadau iachach mewn bywyd.

Ac mae gweithlu iach sy’n ymgysylltu yn cyfrannu at gynhyrchiant busnes a ffyniant cymdeithasol.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig