Cyflogwyr yng Nghymru yn gosod safon aur ar gyfer iechyd a llesiant yn y gweithle

Mae adroddiad newydd gan dîm Cymru Iach ar Waith yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at y ffyrdd niferus y mae cyflogwyr yng Nghymru wedi camu i’r adwy ac yn arwain y ffordd ar flaenoriaethu iechyd a llesiant meddwl a chorfforol eu gweithwyr, yn ystod ac yn dilyn pandemig y Coronafeirws.

Mae ‘Sut y gwnaeth cyflogwyr yng Nghymru ymateb i bandemig Covid-19: Crynodeb o’r dulliau o ymdrin â llesiant staff gan gwmnïau yng Nghymru’ yn canolbwyntio ar rai o’r gweithgareddau a’r dulliau arloesol a gymerwyd gan sefydliadau a chyflogwyr. Mae’r themâu allweddol yn cynnwys:

  • Annog a hybu iechyd meddwl a llesiant
  • Hyrwyddo mentrau llesiant corfforol
  • Cyfathrebu a hyfforddiant staff
  • Ymgysylltu â staff a’u cydnabod a’u cefnogi
  • Cyfathrebu digidol
  • Diogelu’r gymuned
  • Gwneud newidiadau cynaliadwy
  • Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig