Adroddiad newydd yn canfod bod cynllunio ymlaen llaw yn allweddol i lwyddiant hunanynysu
Mae adroddiad newydd gan Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi canfod bod pobl sydd wedi nodi cymorth digonol a chynllunio ymlaen llaw ar gyfer cyfnod posibl o hunanynysu, yn teimlo llai o her gan y posibilrwydd ac yn fwy tebygol o lwyddo.
Cyhoeddwyd yr adroddiad heddiw (24 Mawrth, 2021), ac mae’n cyfuno data o ddwy astudiaeth ar brofiadau pobl yng Nghymru sydd wedi gorfod hunanynysu oherwydd COVID-19.
Dyma brif ganfyddiadau’r adroddiad:
- Dangosodd y ddwy astudiaeth fod y ddealltwriaeth o hunanynysu ac ymlyniad ato yn uchel, gyda mwy na 90 y cant o’r cysylltiadau a ymatebodd yn nodi eu bod yn hyderus eu bod wedi deall yr hyn a oedd yn ofynnol ganddynt yn ystod eu cyfnod hunanynysu a 78 y cant yn dweud nad oeddent wedi gadael eu cartref yn ystod hunanynysu.
- Mae pobl sy’n cymryd camau i gynllunio ar gyfer hunanynysu ac sydd â phobl sy’n gallu eu cefnogi drwy hunanynysu yn llai tebygol o ddweud y bydd hunanynysu yn her. Roedd 68.5 y cant o bobl y cysylltwyd â nhw wedi cynllunio ymlaen llaw ar gyfer cyfnod posibl o hunanynysu.
- Er gwaethaf lefelau uchel o hyder, roedd bron 1 o bob 5 yn teimlo y bydd hunanynysu yn her (18.5 y cant).
- Roedd yr heriau a gofnodwyd amlaf fel y rhai yr oedd cysylltiadau a oedd yn dechrau cyfnod o hunanynysu yn pryderu amdanynt fel a ganlyn: yr effaith ar iechyd meddwl (11.7 y cant), yr effaith ar eu gwaith neu eu busnes (9.5 y cant), problemau ariannol (9.3 y cant), neu ddarparu gofal i rywun (gofalu am blant (11.2 y cant), neu bobl eraill sy’n agored i niwed (8.2 y cant)).
- Y pum her a gofnodwyd amlaf gan gysylltiadau yn ystod hunanynysu oedd: Eisiau gweld teulu (66.7 y cant), eisiau gweld ffrindiau (60.6 y cant), diffyg ymarfer corff (58.6 y cant), unigrwydd (31.2 y cant), ac anawsterau iechyd meddwl (24.6 y cant)
- Mae cysylltiadau sy’n byw ar eu pennau eu hunain a’r rhai sy’n credu bod y Coronafeirws yn peri mwy o risg iddynt yn fwy tebygol o ddweud y bydd hunanynysu yn her.
Meddai Dr Richard Kyle, Dirprwy Bennaeth Ymchwil a Gwerthuso, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Hyd yn hyn, mae’r dystiolaeth ar hunanynysu ymhlith cysylltiadau yng Nghymru wedi bod yn gyfyngedig, felly mae’r mewnwelediad hwn yn darparu gwybodaeth hanfodol i helpu i lywio negeseuon a chymorth i bobl yng Nghymru gadw at hunanynysu.
“Mae’r lefelau uchel o hyder ac ymlyniad a nodwyd ymhlith y rhai a ymatebodd yn newyddion i’w groesawu. Canfu ein hastudiaethau fod cynllunio a chael cymorth ar gyfer hunanynysu yn allweddol felly rydym yn annog pawb i gymryd amser i nodi pobl a all eu helpu i hunanynysu a darganfod pa wasanaethau sydd ar gael yn lleol i helpu.”
Roedd gwahaniaethau amlwg yn yr heriau a gofnodwyd gan wahanol grwpiau. Ymhlith menywod a phobl ifanc (18-29 oed) yr effaith ar iechyd meddwl oedd y pryder mwyaf. Ymhlith dynion a’r rhai 40-49 oed, y pryder mwyaf oedd yr effaith ar waith a busnes. Ac ymhlith grwpiau oedran hŷn, y pryder mwyaf oedd eu hiechyd sylfaenol.
Meddai Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Y ddwy astudiaeth arloesol hyn yw’r dull systematig cyntaf o goladu’n fanwl y mewnwelediadau gan gysylltiadau COVID-19 sy’n ynysu yng Nghymru.
“Gall deall ffactorau sy’n galluogi ac yn herio cysylltiadau COVID-19 i ynysu, a sut y mae’r profiadau hyn yn wahanol ar draws grwpiau helpu i lywio cymorth a negeseuon yn well ar gyfer cysylltiadau COVID-19 mewn ymateb i’r pandemig.”
Meddai Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiadau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru “Mae hwn yn gyfle i’n hatgoffa ni i gyd i gymryd camau i fod yn barod am gyfnod o hunanynysu, os bydd hynny’n codi. Mae’r canfyddiadau hyn yn rhoi ystyriaethau gwerthfawr ar gyfer gweithredu yn y dyfodol a byddant yn parhau i gefnogi ein gwaith gyda chydweithwyr ar draws byrddau iechyd, rhaglenni Profi, Olrhain Diogelu a Llywodraeth Cymru yn ein camau gweithredu ar y cyd i fynd i’r afael â COVID-19″
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.