Clefydau Anhrosglwyddadwy

Clefydau Anhrosglwyddadwy

Ni ellir trosglwyddo Clefydau Anhrosglwyddadwy (NCD) o un person i’r llall.  Maent yn gronig o ran natur ac yn datblygu’n araf yn gyffredinol.  Y pedwar prif fath o NCD yw clefydau cardiofasgwlaidd (e.e. trawiad ar y galon a strôc), canserau, clefydau anadlol cronig (e.e. clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac asthma) a diabetes.  Yng Nghymru mae baich clefydau yn sgîl NCD ymysg y rheiny rhwng 30 a 70 oed wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf o 385 o bobl fesul 100,000 o’r boblogaeth yn 2005-07 i 319 o bobl fesul 100,000 yn 2013-15 (Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2018).  Mae ymddygiad niweidiol yn ymwneud ag iechyd, yn cynnwys defnyddio tybaco, deiet afiach, gormod o alcohol ac anweithgarwch corfforol, i gyd yn cynyddu’r risg o ddatblygu a marw o NCD.

Darllen mwy

Adnoddau Ein prif ddewisiadau


Warning: Undefined array key 0 in /nas/content/live/phn21/wp-content/themes/divi-child/single-topic.php on line 385

Math o ffeil

Teitl

Cynhyrchwyd gan

Cynllun gweithredu byd-eang ar gyfer atal a rheoli clefydau anhrosglwyddadwy 2013-2020 – Ar gael yn Saesneg yn unig

Sefydliad Iechyd y Byd

Clefydau anhrosglwyddadwy – Ar gael yn Saesneg yn unig

Sefydliad Iechyd y Byd

Proffiliau gwledydd clefydau anhrosglwyddadwy 2018 – Ar gael yn Saesneg yn unig

Sefydliad Iechyd y Byd

Ysgogi gweithredu i atal canser a chlefydau anhrosglwyddadwy eraill – Ar gael yn Saesneg yn unig

World Cancer Research Fund International

Mynd i’r afael â chlefydau anhrosglwyddadwy – Ar gael yn Saesneg yn unig

Sefydliad Iechyd y Byd

Chwilio am adnodd penodol?

Os ydych chi'n chwilio am adnoddau pwnc-benodol, cliciwch ar adnoddau chwilio lle byddwch chi'n gallu hidlo a chwilio yn ôl maes pwnc.

Cyfrannu at ein pynciau

Oes gennych chi adnodd rydych chi am ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith trwy ychwanegu at ein pynciau.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig