Mae bwyta diet iach trwy gydol bywyd yn ganolog i iechyd a lles da. Gall helpu pobl i deimlo’u gorau, gan ddarparu’r maetholion y mae ar y corff eu hangen. Mae’n cyfrannu at atal camfaethiad a chlefydau anhrosglwyddadwy, fel diabetes math 2, clefyd y galon, strôc a chanserau penodol, a bod pwysau’r corff yn iach ac yn cael eu cynnal.
Gyda’r cynnydd yn y defnydd o fwydydd wedi’u prosesu gael eu bwyta, mae pobl yn bwyta mwy o fwydydd dwys o ran egni ac sydd â lefelau uchel o frasterau, siwgrau rhydd a halen. Nid yw llawer o bobl yn bwyta digon o ffrwythau, llysiau a ffibr dietegol arall, fel grawn cyflawn.
Mae data Arolwg Cenedlaethol Cymru (2021-22) yn dangos mai dim ond 30% o oedolion a ddywedodd eu bod wedi bwyta o leiaf 5 dogn o ffrwythau neu lysiau’r diwrnod cynt. Mae plant hefyd yn bwyta llai o ffrwythau a llysiau na’r hyn sy’n cael ei argymell, ac mae’r fitaminau a’r mwynau a gânt yn isel hefyd. (Arolwg Diet a Maeth Cenedlaethol, 2019)
Nid oes un bwyd unigol yn cynnwys yr holl faetholion hanfodol y mae ar ein corff eu hangen i fod yn iach a gweithredu’n effeithlon. Dylai diet cytbwys, iach, gynnwys amrywiaeth o fwydydd o bob grŵp bwyd. Mae’r Canllaw Bwyta’n Dda yn amlygu yn ôl pa gyfran y dylid bwyta bwydydd o bob un o’r grwpiau bwyd er mwyn darparu diet iach sy’n cyflenwi’r holl faetholion mae ar ein corff eu hangen i fod yn heini ac yn iach.
Yn 2020 lansiodd Llywodraeth Cymru strategaeth hirdymor Cymru i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru: Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol: amgylcheddau iach, lleoliadau iach, arweinyddiaeth a galluogi newid a phobl iach.
Mae’r system fwyd yn effeithio ar iechyd y cyhoedd mewn sawl ffordd, gan gynnwys ei gallu i ddarparu diet iach i bobl a’r blaned, gan gefnogi diogeledd bwyd a chynaliadwyedd bwyd.
Mae’r system fwyd yng Nghymru’n cynnwys yr holl bobl a pherthnasoedd sy’n ymwneud â thyfu, cynhyrchu, gweithgynhyrchu, cyflenwi a bwyta bwyd. Mae’n cwmpasu amaeth, pysgodfeydd, gweithgynhyrchu bwyd, adwerthu, gwasanaethau bwyd, bwyta a gwastraff. Mae’n cynnwys gyrwyr cymdeithasol ac economaidd dewisiadau a dynameg o fewn y system ac mae’n trawstorri holl raddfeydd polisi a phob agwedd ar bolisi, gan gynnwys yr economi, yr amgylchedd, busnes, addysg, lles, iechyd, trafnidiaeth, masnach, cynllunio a llywodraeth leol. Mae’n gymhleth, yn enfawr ac yn hynod gyd-ddibynnol.
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn eiriol dull ‘bwyd ym mhob polisi’, y gellir ei gyflawni drwy gyfrwng ymchwil, cydweithredu traws-sector a thrwy ysgogi Mudiad Bwyd Da Cymru, gan gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion bwyd ac annog pobl i gymryd rhan yn helaeth mewn gweithgareddau’n ymwneud â bwyd.
Mae Sgiliau Maeth am Oes® a ddatblygwyd ac a arweinir gan Ddeietegwyr Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru yn darparu addysg a hyfforddiant maeth i wirfoddolwyr a staff cymunedol. Mae’n cynorthwyo asiantaethau partner i wella darpariaeth bwyd a diod mewn lleoliadau cymunedol fel gofal plant, ysgolion, a lleoliadau gofal oedolion hŷn, ac mae’n ceisio grymuso cymunedau i oresgyn rhwystrau yn cael mynediad at ddeiet amrywiol a chytbwys trwy fuddsoddi mewn gwybodaeth bersonol a sgiliau, a gweithio mewn partneriaeth i sefydlu mentrau bwyd lleol.
Ein nod yw sicrhau bod gan bawb y sgiliau, y cyfle a’r hyder i gael mynediad at ddeiet iach, fforddiadwy a chynaliadwy i’w hunain a’u teuluoedd a’u cymunedau.
Mae ystod o gyrsiau bwyd a maeth y mae eu hansawdd wedi ei sicrhau ar gael. Cliciwch yma i weld enghraifft o gêm ‘Beth yw dogn?’