Dyddiad + Amser
8 Mehefin 2023
2:00 YP - 3:00 YP
Daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021 a’i nod yw darparu canlyniadau gwell i’r rhai sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol mewn meysydd fel iechyd, disgwyliad oes a chyrhaeddiad addysgol. Er bod cyrff cyhoeddus wedi croesawu’r Ddyletswydd, mae gwaith ymchwil gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn awgrymu nad yw wedi cael ei gweithredu’n llawn a bod angen mwy o gymorth. Mae’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn gyfle i wneud gwahaniaeth i iechyd a lles pobl sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol a hyrwyddo cydraddoldeb.
Bydd y weminar hon yn archwilio gweithredu’r Ddyletswydd yn ymarferol ac yn rhoi arweiniad ychwanegol ar arweinyddiaeth systemau, defnyddio data’n effeithiol, ymgysylltu’n ystyrlon a gwybod sut mae sefydliadau wedi gwneud gwahaniaeth. Bydd y weminar yn esbonio sut mae anghydraddoldebau o ran canlyniad wedi’u cysylltu ag anfantais economaidd-gymdeithasol, gyda phwyslais cryf ar iechyd.
Deilliannau Dysgu:
Siaradwyr:
Lewis Brace – Swyddog Ymchwil Polisi Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
8 Mehefin 2023
2:00 YP - 3:00 YP
Ar-lein
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.