Dyddiad + Amser
5 Hydref 2023
2:00 YP - 3:00 YP
Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru flaenoriaeth strategol newydd: mynd i’r afael ag effeithiau iechyd cyhoeddus y newid yn yr hinsawdd, gan gydnabod mai’r argyfwng hinsawdd yw’r bygythiad iechyd mwyaf sy’n wynebu’r ddynoliaeth. Bydd y weminar hon yn cyflwyno adnodd ar-lein rhad ac am ddim, a gynhyrchir gan yr Canolbwynt Iechyd a Chynaliadwyedd, sy’n helpu unigolion a thimau i weithredu er mwyn lleihau eu heffaith amgylcheddol.
Bydd Bethan Harvey o Cynnal Cymru yn esbonio sut i ddefnyddio’r gweithdy ar-lein Amgylchedd Iach rhad ac am ddim sydd wedi’i seilio ar bedair thema – datgarboneiddio, bioamrywiaeth, dim gwastraff a’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r gweithdy’n annog unigolion a thimau i ddatblygu cynllun gweithredu i leihau eu heffeithiau negyddol a chynyddu eu heffeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd, a chyfrannu at unrhyw systemau rheoli amgylcheddol sydd eisoes yn bodoli yn eu sefydliad.
Bydd y weminar hefyd yn amlygu cyfleoedd hyfforddi rhad ac am ddim sydd ar gael ar y newid yn yr hinsawdd i’ch helpu i ddeall beth mae’r newid yn yr hinsawdd yn ei olygu i’ch rôl, a sut i weithredu.
Cadeirydd – Tracy Evans, Uwch Swyddog Datblygu Cynaliadwy, Canolbwynt Iechyd a Chynaliadwyedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
5 Hydref 2023
2:00 YP - 3:00 YP
Gweminar
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.