DIGWYDDIADAU BLAENOROL

Daeth y digwyddiad i ben.

Mae'r digwyddiad hwn bellach wedi mynd heibio. Gweler isod am ragor o fanylion am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad hwn.

Meddwl trwy systemau ac iechyd y cyhoedd: cyflwyniad

Dydd Mercher 19 Hydref 2022
With Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Rhoddodd y weminar hon, a gyflwynwyd gan Jenneth Parker o Sefydliad Schumacher, gyflwyniad hygyrch i weithredu trwy systemau a sut gall hyn ein helpu ni i ganfod ein ffordd mewn byd cymhleth – gyda phwyslais penodol ar systemau iechyd y cyhoedd a’r ffordd y maent yn dod o fewn, ac yn dylanwadu ar, systemau cymdeithasol a bioffisegol ehangach.

Canlyniadau Dysgu:

  • Cael dealltwriaeth sylfaenol o’r amrywiaeth o ddulliau meddwl trwy systemau a’u defnydd
  • Cael trosolwg o botensial meddwl trwy systemau yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd yng Nghymru gan gyfeirio at y fframweithiau Llesiant a chynaliadwyedd
  • Dechrau ystyried ffyrdd o gynnwys meddwl trwy systemau yng ngwaith cyfranogwyr

Mae sawl rheswm pam y gall pawb ymgysylltu’n hawdd â meddwl trwy systemau. Trafododd Jenneth Parker o Sefydliad Schumacher y dysgu trwy systemau yr ydym wedi eu cael trwy bandemig COVID-19, ynghyd â rhai diagramau archwiliadol sydd yn dangos meddwl trwy systemau ar waith.  Rhoddodd Jenneth gyflwyniad i rai o’r mathau gwahanol o ddulliau meddwl trwy systemau. Roedd hyn yn cynnwys trafodaeth o’r ffyrdd y gall meddwl a gweithredu trwy systemau ein helpu ni i ymdrin â rhyng-ddisgyblaethu yng nghyd-destunau ymchwil ac ymarfer. Arweiniodd hyn at drafodaeth ehangach am botensial offer a gweithredu trwy systemau i helpu i lywio, a gwneud ymyriadau gwybodus, mewn systemau iechyd y cyhoedd.

Adborth am ddigwyddiadau

Mae gennym ddiddordeb bob amser i glywed adborth ar ein digwyddiadau ac awgrymiadau ar rai yn y dyfodol. Os hoffech roi adborth inni ar y digwyddiad hwn, defnyddiwch y ddolen isod.
Rhowch adborth

Tagiau

Digwyddiadau eraill yn y gorffennol

Meddwl trwy systemau ac iechyd y cyhoedd

Gwerthuso digwyddiadau Enlarge


Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol

Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod

    If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'


    Nodi problem

    Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
    Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

    Yn ôl i'r brig