11 Hyd
Online

Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

11 Hyd

Dyddiad + Amser

11 Hydref 2023

1:30 YP - 3:00 YP

Math

Ar-lein

Math

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru: Beth rydym yn ei wybod a beth rydym yn ei wneud amdano

Mae’r argyfwng costau byw yn cael effeithiau pellgyrhaeddol a thymor hir ar fywydau beunyddiol pobl yng Nghymru, a bydd hynny’n parhau, ond mae’n cael effeithiau penodol ar blant. Mae’r effeithiau hyn yn achosi pryder arbennig o ystyried sut mae profiadau o dlodi mewn plentyndod yn cael effeithiau negyddol hirhoedlog ar eu datblygiad a’u hiechyd a’u ffyniant yn y dyfodol. Mae mynd i’r afael â thlodi plant wrth wraidd dyfodol gwell a mwy cydnerth i Gymru ac mae’n flaenoriaeth ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

Bydd y weminar hon yn archwilio polisi, ymchwil ac ymarfer presennol yng Nghymru sy’n ceisio cefnogi plant a’u teuluoedd trwy’r argyfwng costau byw. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Canfyddiadau allweddol adolygiad o lenyddiaeth sy’n archwilio canlyniadau iechyd negyddol uniongyrchol ac anuniongyrchol yr argyfwng costau byw ar blant, yn y tymor byr a’r tymor hwy.
  • Canfyddiadau allweddol arolwg cenedlaethol o aelwydydd a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddeall sut mae pobl yn ymdopi yn ystod yr argyfwng costau byw a’i effaith ar iechyd a lles.
  • Diweddariad ar waith y Cydweithrediad Tegwch Iechyd Plant a Phobl Ifanc: sef cydweithrediad tair blynedd rhwng Barnardo’s, y Sefydliad Tegwch Iechyd (tîm Marmot) a thair ardal leol. Mae’r rhaglen hon yn creu a chyflawni galluogwyr system iechyd allweddol i gyflawni tegwch iechyd plant.
  • Mae gan Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd rôl i’w chwarae wrth liniaru effaith tlodi plant ac anghydraddoldebau. Dysgwch fwy am eu cyfraniad at leihau effaith tlodi ac anghydraddoldebau iechyd i blant yng Nghymru.
  • Cyflwyniad i fodel cysyniadol newydd a ddatblygwyd gan raglen y 1000 Diwrnod Cyntaf sy’n dwyn ynghyd theori bresennol, tystiolaeth ymchwil a gwybodaeth am brofiadau bywyd rhieni a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru i ddeall sut gall y system gefnogi rhieni i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant.
  • Diweddariad ar Strategaeth Tlodi Plant ddrafft Cymru Llywodraeth Cymru a sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd trwy’r argyfwng costau byw.

 

Siaradwyr

  • Louisa Petchey a Manon Roberts, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Karen Hughes a Rebecca Hill, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Abigail Knight, Barnardo’s
  • Catherine Pape, Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Susan Wing a Amy McNaughton, Is-adran Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Sally Hunt, Tîm Trechu Tlodi, Llywodraeth Cymru

Dyddiad + Amser

11 Hydref 2023

1:30 YP - 3:00 YP

Math

Ar-lein

Cyfrannu at ein digwyddiadau

A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig