DIGWYDDIADAU BLAENOROL

Daeth y digwyddiad i ben.

Mae'r digwyddiad hwn bellach wedi mynd heibio. Gweler isod am ragor o fanylion am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad hwn.

Deall y dylanwadau ar les meddwl ar lefel unigol a chymunedol

Dydd Mercher 26 Hydref 2022
With Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae lles meddwl yn hanfodol i iechyd a lles. Nod Iechyd Cyhoeddus Cymru yw lansio rhaglen waith newydd, Hapus, sy’n ymwneud yn rhannol â chael sgwrs genedlaethol i annog pobl yng Nghymru i ganolbwyntio ar yr hyn sydd yn bwysig iddyn nhw a’u lles meddwl ac i wneud amser i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n hyrwyddo ac yn diogelu

Tanategir y rhaglen gan fframwaith cysyniadol yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n darlunio elfennau allweddol o les meddwl a’r rhyng-gysylltiad rhwng lles unigol a chymunedol. Mae’r fframwaith yn cydnabod bod y ffordd yr ydym yn meddwl ac yn teimlo yn cael ei ddylanwadu gan amrywiaeth o ffactorau seicogymdeithasol, profiadau yn y gorffennol a’r presennol, ein hymddygiad iechyd a’n statws iechyd, yn ogystal â phenderfynyddion ehangach iechyd. Mae ein statws a’n rhyngweithio o fewn cymunedau hefyd yn dylanwadu ar les meddwl.

Nod defnyddio’r model hwn fel sylfaen ‘Hapus’ yw gwella dealltwriaeth pobl o les meddwl ac annog pobl i ymgysylltu â gweithgareddau yn seiliedig ar dystiolaeth sydd yn gallu helpu i ddiogelu a hyrwyddo lles, fel ymgysylltu â’r amgylchedd naturiol, y celfyddydau, treftadaeth a diwylliant.

Rydym eisiau i chi fod yn rhan o sgwrs genedlaethol a’r weminar hon yw dechrau ein taith.

Canlyniadau Dysgu:

  • Cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o Fframwaith Cysyniadol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Lles Meddwl a rhaglen Hapus
  • Cynyddu gwybodaeth am gydrannau lles meddwl da

Siaradwyr:

  • Emily van de Venter, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd (Gwella Iechyd), Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Carol Owen, Prif Arbenigwr Hybu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Adborth am ddigwyddiadau

Mae gennym ddiddordeb bob amser i glywed adborth ar ein digwyddiadau ac awgrymiadau ar rai yn y dyfodol. Os hoffech roi adborth inni ar y digwyddiad hwn, defnyddiwch y ddolen isod.
Rhowch adborth

Tagiau

Digwyddiadau eraill yn y gorffennol

Deall y dylanwadau ar les meddwl ar lefel unigol a chymunedol

Gwerthuso digwyddiadau Enlarge

Cyflwyniad digwyddiad

Hyrwyddo lles meddyliol


Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol

Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod

    If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'


    Nodi problem

    Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
    Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

    Yn ôl i'r brig