Dyddiad + Amser
2 Gorffennaf 2026
10:00 YB - 11:30 YB
Ymunwch â ni am sesiwn ysbrydoledig ac ymarferol a gyflwynir mewn partneriaeth â’r Rhwydwaith Bwydo ar y Fron, lle byddwn ni’n archwilio pam mae’n rhaid cydnabod bwydo ar y fron yn fater iechyd y cyhoedd hanfodol yng Nghymru, pam mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i’r mater a sut y gall awdurdodau lleol a chymunedau chwarae rhan bwerus wrth wireddu hyn.
Yn y weminar hon, byddwch yn:
Byddwn hefyd yn clywed yn uniongyrchol gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, a fydd yn rhannu ei daith o weithredu Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron mewn cyd-destun Cymreig—a sicrhau bod dros 400 o famau’n cofrestru yn ei flwyddyn gyntaf. Bydd yn cynnig myfyrdodau gonest ar yr hyn a weithiodd, yr heriau a wynebwyd ganddo, a’r gwersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd.
Mae’r sesiwn hon yn gyfle i gael mewnwelediadau ymarferol, i gael eich ysbrydoli gan hanesion go iawn, ac i gysylltu ag eraill sydd wedi ymrwymo i gefnogi cymunedau sy’n gyfeillgar i fwydo ar y fron.
2 Gorffennaf 2026
10:00 YB - 11:30 YB
Ar-lein
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.