8 Gor
Online

Adfyd ac Iechyd yn Hwyrach mewn Bywyd: Mewnwelediadau o Ymchwil yng Nghymru

Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

8 Gor

Dyddiad + Amser

8 Gorffennaf 2026

2:00 YP - 3:00 YP

Math

Ar-lein

Math

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae Cymru wedi ymrwymo i greu cymdeithas sy’n oed-gyfeillgar lle mae pobl o bob oed yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu byw a heneiddio’n dda. Mae atal anawsterau yn hwyrach mewn bywyd sy’n gallu niweidio iechyd a llesiant yn ganolog i’r ymrwymiad hwn ac yn hanfodol i wella manteision cymdeithasol poblogaeth hŷn sy’n cynyddu.

Bydd y weminar hon yn tynnu sylw at effeithiau adfyd yn hwyrach mewn bywyd ar iechyd a llesiant pobl hŷn, ac yn cyflwyno canfyddiadau allweddol o astudiaethau diweddar a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Arolwg poblogaeth cenedlaethol o oedolion 60 oed a hŷn yn archwilio amlygiad i brofiadau niweidiol gan gynnwys cam-drin, tlodi, unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a’u heffaith ar iechyd a llesiant
  • Monitro tymheredd cartrefi a chyfweliadau â thrigolion yn archwilio effaith cartrefi oer ar iechyd a llesiant
  • Crynhoi gwybodaeth ac ymarfer ar ynysigrwydd cymdeithasol, unigrwydd a chysylltiad cymdeithasol yng Nghymru

Canlyniadau Dysgu

  • Ymwybyddiaeth o ymchwil sy’n dod i’r amlwg ar bobl hŷn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Deall effeithiau adfyd yn hwyrach mewn bywyd ar iechyd a llesiant
  • Nodi datrysiadau a chyfleoedd yng Nghymru

Dyddiad + Amser

8 Gorffennaf 2026

2:00 YP - 3:00 YP

Math

Ar-lein

Cyfrannu at ein digwyddiadau

A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig