DIGWYDDIADAU BLAENOROL

Daeth y digwyddiad i ben.

Mae'r digwyddiad hwn bellach wedi mynd heibio. Gweler isod am ragor o fanylion am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad hwn.

Agweddau ac ymddygiad y cyhoedd yn ystod pandemig COVID-19, ymagwedd gwyddor ymddygiad

Dydd Mercher 25 Mai 2022
With Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yn y weminar hon, bydd Ashley Gould o Uned Gwyddor Ymddygiad, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn datgelu dylanwadau blaenllaw pennaf penderfyniadau ac ymddygiad, a pham y gall dealltwriaeth well o’r rhain olygu ymyriadau mwy effeithiol, polisïau mwy trawiadol, gwasanaethau tecach a chyfathrebu â chyrhaeddiad ac ymateb gwell. Bydd yn disgrifio ymagwedd bwyllog tuag at ddiffinio, rhoi diagnosis, a dehongli dylanwadau ymddygiadol a’r ffordd orau o ymateb iddynt wrth ddylunio a chyflwyno ymyriadau. Bydd y weminar yn amlygu enghreifftiau o’r ffordd y cafodd gwyddor ymddygiad ei ddefnyddio yn yr ymateb i bandemig COVID-19.

Bydd Simon Williams o Brifysgol Abertawe yn trafod canfyddiadau o’r astudiaeth gafodd ei harwain gan Brifysgol Abertawe, Barn y Cyhoedd yn Ystod y Pandemig Covid (PVCOVID) – prosiect ymchwil hydredol, dulliau cymysg, yn dilyn agweddau ac ymddygiad y cyhoedd yn ystod y pandemig.  Bydd yn trafod ymlyniad y cyhoedd i ymyriadau anfferyllol (NPI) COVID-19 (e.e. Cadw pellter cymdeithasol a gwisgo masgiau) yn ogystal ag ymgymeriad y brechlyn. Bydd yn trafod yr hwyluswyr a’r rhwystrau i ymlyniad, gan ddefnyddio amrywiaeth o gysyniadau a fframweithiau o fewn seicoleg iechyd a gwyddor ymddygiad.

Adborth am ddigwyddiadau

Mae gennym ddiddordeb bob amser i glywed adborth ar ein digwyddiadau ac awgrymiadau ar rai yn y dyfodol. Os hoffech roi adborth inni ar y digwyddiad hwn, defnyddiwch y ddolen isod.
Rhowch adborth

Tagiau

Digwyddiadau eraill yn y gorffennol

Agweddau ac ymddygiad y cyhoedd yn ystod pandemig COVID-19, ymagwedd gwyddor ymddygiad


Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol

Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod

    If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'


    Nodi problem

    Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
    Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

    Yn ôl i'r brig