Yr haf mwyaf diogel ar ffyrdd Cymru, yn ôl ystadegau newydd
Mae’r ystadegau diweddaraf ar wrthdrawiadau a gofnodwyd gan yr heddlu, sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng Gorffennaf a Medi 2024, yn dangos bod gwrthdrawiadau ar ffyrdd Cymru ar eu lefel isaf ar gyfer y chwarter hwnnw ers i gofnodion ddechrau, gan gynnwys yn ystod y pandemig.
Mae’r ffigurau darparu’r flwyddyn gyntaf o ystadegau ers cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya.
Maent yn dangos bod tua 100 yn llai o bobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd gyda therfynau cyflymder o 20mya a 30mya yn y cyfnod o 12 mis ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya, o gymharu â’r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
Roedd nifer yr anafiadau ar ffyrdd gyda therfynau cyflymder ffyrdd 20 a 30mya (gyda’i gilydd) rhwng Gorffennaf a Medi 2024 yn cynrychioli’r ffigurau Ch3 isaf yng Nghymru ers i gofnodion ddechrau.
Yn ystod y cyfnod o 12 mis o Ch4 2023 i Ch3 2024 (h.y. ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya), mae nifer yr anafiadau ar ffyrdd 20 a 30mya (gyda’i gilydd) 28% yn is na’r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.